Clwb Rygbi Caernarfon AdraClwb Rygbi Caernarfon NewsClwb Rygbi Caernarfon 1stsClwb Rygbi Caernarfon 2ndsClwb Rygbi Caernarfon YouthsClwb Rygbi Caernarfon MerchedClwb Rygbi Caernarfon IauClwb Rygbi Caernarfon GogsClwb Rygbi Caernarfon HanesClwb Rygbi Caernarfon GaleriClwb Rygbi Caernarfon NoddwyrClwb Rygbi Caernarfon TicediClwb Rygbi Caernarfon SiopSwyddogion Clwb Rygbi CaernarfonClwb Rygbi Caernarfon CyswlltFideos Y Clwb / Video Clips from the Club
 
 
 
 

 

Sefydlwyd Clwb Rygbi Caernarfon yn 1973 yn dilyn cyfarfod pwyllgor yn yr hen Marbryn.

Y flwyddyn honno iw pen-blwydd swyddogol y clwb ond roedd gan Clwb Rygbi Caernarfon gyfrif banc nôl ym 1960. Fel esbonnir chapten cyntaf y clwb, Alun Roberts.

"Roedd 'na griw ohonan ni yn chwarae yn erbyn Llandudno bob Boxing Day," meddai Alun 'Cwstard' Roberts, capten cyntaf Clwb Rygbi Caernarfon. "Gêm yn y pnawn, dw mawr yn nhy Harland Greenshields yng Nghaeathro wedyn ac yna lawr i'r Royal i ddawnsio. Fe waethon ni hyn am flynyddoedd ond methu a chael digon o chwaraewyr i sefydlu clwb go iawn bob tro.

"Roedd y cyfri banc reit iach ond fe rannon ni'r arian hefo Llandudno yn y diwedd jyst cyn i ni ddechrau'r clwb yn swyddogol"

Roedd hynny ym 1973. Cafwyd pwyllgor yn y Marbryn efo pobl fel y diweddar Des Treen, Stuart Gifford a Wally Hewer. "Roeddwn i, Einion Angel a Clive James yno hefyd os cofia i'n iawn," meddai Alun.
Einion oedd ysgrifennydd cynta'r clwb a syndod i rai efallai fyddai deall mai'r hyfforddwr ffitrwydd oedd Wyn Davies, Mr Pêl-droed ac athro ymarfer corff Syr Hugh. "Roedd Wyn yn grêt ac Einion a finna wedyn yn gyfrifol am hynny o dactegau oedd ganddon ni," meddai Alun. "Yn y Hole in the Wall oeddan ni'n cyfarfod ar y dechra. Ond fe gerddon ni rownd Dre - o Twtil i Black - cyn prynu'r hen glwb yn Lôn Gas."

Y Tim Cyntaf 1974/75

Yr adeilad chwedlonol hwnnw yn Ffordd Santes Helen fu cartre'r clwb wedyn am bron i ddeunaw mlynedd. Mae llu o atgofion rhwng ei furiau: nosweithiau Bara Caws, nosweithiau Ffrengig unwaith y mis heb sôn am wythnos anhygoel y Steddfod Genedlaethol ym 1979. Cymerwyd ymhell dros ugain mil o bunnau tu ôl i'r bar yr wythnos honno a wnaiff Alun byth anghofio'r nos Sul gynta. Roedd y Dre yn sych ar y Sul bryd hynny ac roedd 'na giw o gyfeiriad yr Albert dros y lein i lawr am y clwb pan gyrhaeddodd Alun, at ei ben ei hun bach, i agor. Yr adeilad chwedlonol hwnnw yn Ffordd Santes Helen fu cartre'r clwb wedyn am bron i ddeunaw mlynedd. Mae llu o atgofion rhwng ei furiau: nosweithiau Bara Caws, nosweithia u Ffrengig unwaith y mis heb sôn am wythnos anhygoel y Steddfod Genedlaethol ym 1979. Cymerwyd ymhell dros ugain mil o bunnau tu ôl i'r bar yr wythnos honno a wnaiff Alun byth anghofio'r nos Sul gynta. Roedd y Dre yn sych ar y Sul bryd hynny ac roedd 'na giw o gyfeiriad yr Albert dros y lein i lawr am y clwb pan gyrhaeddodd Alun, at ei ben ei hun bach, i agor.

Do, gwagiwyd sawl casgen yr wythnos honno. Er, ni fu'r clwb yn enwog am safon ei gwrw bob tro. Cofia Alun yn dda y drafodaeth fu am brynu coolers. Rheiny neu beiriant sgrymio oedd y pwnc dadleuol. Penderfynwyd ar y 'coolers' o un bleidlais - wrth lwc. Roedd Alun wedi eu harchebu cyn y bleidlais! Prysurwn i ddweud fod y peiriant sgrymio wedi cyrraedd yn fuan ar ôl hynny hefyd.

Yn 1980 fe gafodd y clwb caeau rygbi newydd ar Y Morfa, ger Ysbyty Eryri. Yn 1989 fe gafodd y clwb ganiatad cynllunio i greu clwb newydd ar Y Morfa, a fe agorwyd estyniad newyddar gyfer noson Galan 1990.

O safbwynt cyfleusterau, mae'r clwb yn barod i ddatblygu'r adeilad ar Y Morfa i gynnwys ystafelloedd newid a thoiledau ychwnaegol a cegin newydd.

Y Tim Cyntaf 2003/04

 

     
       
Copyright © Clwb Rygbi Caernarfon 2005. All rights reserved. Dylynwyd gan Sbarc.